Dyma le i leisio dy farn!

Mae Fotio am Fory yn blatfform newydd i bleidleiswyr ifanc

Mae’n flwyddyn fawr eleni gyda phobl ifanc 16 mlwydd oed yn cael mynd i fwrw pleidlais am y tro cyntaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.

Bwriad Fotio am Fory yw rhoi llais a hyder i bobl ifanc am wleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru.

Byddwn ni yma bob cam o’r ffordd rhwng nawr a’r etholiad i normaleiddio gwleidyddiaeth. Byddwn yn esbonio’r broses o gofrestru, y broses o bleidleisio, a pham ein bod ni’n pleidleisio i restru dim ond tri. Bydd termiadur i esbonio’r geiriau ’na ni’n eu clywed ar y newyddion ac ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd, ond weithiau ni ddim cweit yn eu deall!

Dyma blatfform i ti rannu dy brofiadau, dechrau sgwrs a chymryd perchnogaeth o faterion sydd yn bwysig i ti – o newid hinsawdd, hawliau merched, ffioedd addysg uwch, trafnidiaeth, safoni arholiadau o achos Covid-19, i hiliaeth a iechyd meddwl. Be’ bynnag sy’n bwysig i ti – dyma’r platfform i leisio dy farn! Does dim cywir nac anghywir.

Cofrestra fel cyfrannwr ar y wefan – mae’n hawdd! Dyma’r llwyfan i ti gael dweud dy ddweud a chael perchnogaeth ar faterion sydd o bwys i ti a dy ffrindiau ar gyfer heddiw a fory.