Ar ôl blynyddoedd o ddisgwyl, ‘dw i o’r diwedd yn cael pleidleisio mewn Etholiad Seneddol yng Nghymru.
Yn ystod y ddwy flynedd o gynrychioli Arfon yn Senedd Ieuenctid Cymru, ‘dw i wedi cael y cyfle i brofi angerdd pobl ifanc ledled y wlad tuag at nifer o achosion teilwng. Ond, ‘dw i wedi profi hefyd y diffyg hyder sydd gan y genhedlaeth hŷn mewn pobl ifanc – dro ar ôl tro. Flwyddyn yma felly, ar ôl blynyddoedd o ddilyn Mam a Dad i’r orsaf bleidleisio, ‘dw i methu disgwyl i gael pleidleisio am y tro cyntaf, a chael cyfle i gyfrannu at benderfyniadau fydd yn cael gymaint o effaith ar ein cenhedlaeth ni yn y dyfodol.
Un peth arall a ddysgais tra’n aelod o’r Senedd Ieuenctid oedd y gwahaniaeth rhwng fy mywyd bob dydd i â bywydau’r cynrychiolwyr yn yr etholaethau eraill. Gredish i fyth y byddai ychydig o filltiroedd yn creu byd mor wahanol i’r rheiny oedd yn byw yno. Roedd rhai yn synnu fod y Gymraeg yn rhan naturiol o fy mywyd bob dydd, a fy mod i’n ei siarad yn gwbl naturiol yn yr ysgol ac yn fy nghartref. Dyma pam felly, yr ydw i’n fwy awyddus nag erioed i gael cwricwlwm cadarnach a fyddai’n rhoi llawer mwy o bwyslais ar ein Hiaith ac ein diwylliant er mwyn i bawb o BOB etholaeth gael y cyfle i’w dysgu a’i defnyddio.
Mae hi’n angenrheidiol i bobl ifanc fynd ati i bleidleisio yn yr etholiad eleni er mwyn cael gwared â’r stigma o ddiffyg gwybodaeth – neu’r diffyg gallu i ddysgu – sydd gan ein cenhedlaeth ni. Dani wedi gweld sawl gwaith yn y flwyddyn ddiwethaf ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth – fel yn achos y Black Lives Matter, newid hinsawdd, ac ym mlerwch y canlyniadau TGAU/LEFEL A llynedd.
Pan roeddwn i’n ymgyrchu i fod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid yn 2018, y tri mater allweddol y dewisais i i ganolbwyntio arnyn nhw oedd; ehangu’r Gymraeg o fewn cymdeithas, hanes Cymru ar y cwricwlwm, a chael cerdyn teithio am ddim i bobl ifanc y wlad. Mae’r materion hyn yn dal yn allweddol o bwysig i mi heddiw. ‘Dw i’n credu ei bod yn allweddol o bwysig fod plant a phobl ifanc Cymru yn cael gwybod am hanes ein gwlad, er mwyn inni allu gwerthfawrogi’r hyn sydd gennym ni yma heddiw. Drwy ddysgu am y gorthrwm ar yr Iaith yn y gorffennol, byddai’r genhedlaeth ifanc yn sicr yn fwy gwerthfawrogol o’n Hiaith ni heddiw,
Dwi wedi fy synnu hefyd o weld ymateb rhai o fy nghyd-ddisgyblion (sy’n 18), i’r Etholiad, gyda rhai yn dweud na fydden nhw’n rhoi croes mewn bocs eleni gan ‘nad ydyn nhw’n gwybod digon’. Yn wir, mae prinder adnoddau yn egluro elfennau penodol o wleidyddiaeth wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r cwricwlwm cyfredol yn sicr yn hesb o’r math yma o wybodaeth, ond mae sefydliadau fel yr Urdd, Senedd Ieuenctid a Golwg wedi bod yn don o adnoddau yn flwyddyn ddiwethaf, yn cynnig gwybodaeth glir, syml a hygyrch i bobl ifanc (ac oedolion!) er mwyn eu cynorthwyo i ddod i ddeall system wleidyddol ein gwlad, a’r pleidiau sy’n obeithiol o’n cynrychioli.
Pleidleisiwch, pleidleisiwch, pleidleisiwch !!